Strykk Not Rum

English | Cymraeg

Ein barn ar Stryyk Not Rum

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 8
Sgôr: 3 o 5

Efallai nad rym yw’r ddiod fwyaf ffasiynol y dyddiau hyn, ond mae’n dal i fod yn ffefryn gan lawer. Ydy hi’n gweithio fel diod ddi-alcohol, felly?

Mae creawdwyr Stryyk Not Rum yn addo “nodau cansen siwgr felys a resins gyda fanila a phren derw”. Ydyn nhw wedi cyflawni eu haddewid? I raddau. Mae gan y ddiod liw euraidd hyfryd a gwynt sbeis trofannol. Ar ei phen hunan, dyw hi ddim yn arbennig o flasus, ond diod ar gyfer ei chymysgu mewn coctels yw hon mewn gwirionedd. Aethon ni am y coctel amlycaf oll a chymysgu rum-n-coke. Mae’n gwneud diod ddymunol gyda mymryn o adflas tsili ond heb fod yn gofiadwy iawn, a heb fod cystal â Teetotal Cuba Libre, rhaid dweud.

Cawson ni Stryyk Not Rum ar werth in Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​