Allan o’r ffordd? Arddangosfeydd alcohol mewn archfarchnadoedd

English | Cymraeg

23 Chwefror 2011

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.2Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Mae mwy a mwy o ddiodydd alcoholaidd yn cael eu gwerthu yn archfarchnadoedd Prydain, yn rhannol oherwydd disgowntiau mawr ac oriau trwyddedu hirach. Mae alcohol ar gael yn fwy nag erioed mewn siopau. Yn aml, mae ar silffoedd wrth ymyl bwydydd cyffredin fel bara a llaeth, a gall fod yn rhatach na dw ^ r potel. Dywedodd 70% o bobl a ymatebodd i arolwg gan Alcohol Concern o 1,000 o gwsmeriaid yn 2010 eu bod o blaid cyfyngu arddangosfeydd alcohol mewn siopau i un man penodol.

Mae’r papur hwn yn edrych yn fwy manwl ar fater alcohol ac archfarchnadoedd, ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu.