Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth
English | Cymraeg
Cwrw gwelw di-alcohol o fragdy Arbor ym Mryste.
Sgôr:
3/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth
Wish You Were Beer yw’r cwrw di-alcohol cyntaf gan Fragdy Arbor ym Mryste, sy’n creu diodydd diddorol ers 2007.
Yn anad dim, mae’n llawn hopys – yn ôl y sôn, rhai citra a mosaic, a’r rheini’n rhai cryf! Oes, mae mwy o hopys yma na llond cae o hopys Henffordd! Oherwydd hyn, mae’n debyg na fyddwch chi’n sylwi ar absenoldeb yr alcohol, sy’n beth da – oni bai nad ydych chi’n hoffi hopys. Os felly, dylech chi gadw draw.
Wrth ei dywallt, mae’n fywiog iawn, gyda lliw ambr cymylog ac ewyn sy’n chwalu’n fuan. A bod yn onest, mae’n teimlo’n denau braidd, bron yn ddyfrllyd, ac mae adflas annymunol braidd. At ei gilydd, roedden ni wedi ein siomi fymryn, ac mae gwell cyrfau gwelw i’w cael, fel Nirvana Hoppy Pale Ale a Good Karma Chakra Pale Ale.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.