Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 12
Ysgrifennon rywbeth ar Jukes Cordialities yn ôl yn 2021. Poteli bach llawn surop ydyn nhw, ar gyfer ei gymysgu gyda dŵr tonic neu soda ar gyfer ei yfed yn lle gwin. Felly, roeddem ni’n eithaf chwilfrydig yn 2026 pan welon ni’r ddiod newydd yma gan yr un cwmni, hefyd ar gyfer gwingarwyr.
Mae’r ddiod wedi’i chyflwyno’n rhagorol gyda label du a gwyn twt. Lliw mêl sydd i’r ddiod ei hun. Mae llu o ddarnau mân ond ynddi does dim disgwyl i chi eu hidlo mas – maen nhw’n rhan o’r profiad ac yn eithaf blasus.
Mae amryw ffrwythau yma – lemwn, leim, pinafal – a hefyd ffenigl a hopys, ynghyd â finegr seidr. At ei gilydd, mae’n gyfuniad deniadol. Mae’n felys a miniog, gydag adflas cynhesol braf. Gwerth rhoi cynnig arni, yn sicr. Fel mae’n dweud ar y botel, does dim diod debyg iddi.