Tanqueray 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Tanqueray 0.0

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100 ml: 12
Sgôr: 5 o 5

Rydyn ni wedi ei ddweud e sawl gwaith o’r blaen ond mae’n werth ei ailddweud: pan fydd mawrion y diwydiant alcohol yn lansio diodydd di-alcohol fel hon, mae’n amlwg mai mwy na rhyw dân siafins yw twf y farchnad ddiodydd dirwestol.

Crëwyd jin Tanqueray ar ei chryfder arferol yn Llundain 1830au. Mae wedi casglu llond côl o wobrau ac mae’n boblogaidd dros ben yn America, Canada a Sbaen. Y cwmni gwirodydd anferthol Diageo sy’n berchen arni. Maen nhw hefyd yn berchen ar Gordon’s 0.0, ac felly, mewn ffordd, yn cystadlu eu herbyn eu hunain. Ond, yn union fel yn y farchnad alcohol, mae Gordon’s 0.0 a Tanqueray 0.0 yn ddwy ddiod gyda dwy gynulleidfa wahanol. Maen nhw ill dwy yn jin Llundeinig traddodiadol gyda blas meryw trwm, ond mae gan Tanqueray 0.0 fymryn mwy o frathiad neu chwerwder. Os ydych chi’n hoffi’r naill un, mae’n debyg na fydd y llall at eich dant – chi sydd biau’r dewis!

Yn ddiddorol, yn gynnar yn 2021 cyhoedd Cymdeithas y Fasnach Winoedd a Gwirodydd na ddylai diodydd di-alcohol fel hon gael eu galw yn “jin” gan fod hynny yn peri “dryswch i gwsmeriaid”. A dweud y gwir, doedden ni ddim wedi drysu o gwbl, ac yn eithaf sicr fod Tanqueray 0.0 yn wych o ddiod: 5 pwynt allan o 5, dwedwn ni!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​