Captain Morgan Spiced Gold & Cola

English | Cymraeg

Ein barn ar Captain Morgan Spiced Gold & Cola.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 2

Mae gwirod Captain Morgan wedi’i henwi ar ôl yr hen fôr-leidr o Gymro, Syr Harri Morgan o Lanrhymni – gynt yn bentref yng nghefn gwlad sir Fynwy, bellach wedi’i lyncu gan Gaerdydd. Mae’r ddiod ei hun fymryn yn ifancach na’r bycanîr a’i bentref, a chafodd ei photelu’n gyntaf oll yn 1944 gan y distyllwyr enwog o Ganada, Seagram.

Mae’n ddiod sy’n adnabyddus ers tro fel un ar gyfer partïon bywiog, ac mae’n sicr bod ambell ael wedi’i chodi yn 2023 pan lansiwyd fersiwn cwbl ddi-alcohol ohoni. Roedden ni wrth ein bodd efo honno, a phleser hefyd oedd gweld y coctel parod yma yn ymddangos tua diwedd 2024, ychydig cyn y Nadolig.

Does yma ddim blasau mawr trawiadol, dim min sbeisiog cryf, ond dyma goctel cynhesol braf, a dewis da os ydych chi’n chwennych rym-a-chola heb ddiferyn o’r ddiod gadarn. Mae hi damaid fel yfed teisen Nadolig da ond heb ddim ond dau galori ynddi!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​