Clean Break Progression

English | Cymraeg

Ein barn ar Clean Break's Progression.

Sgôr:

5/5

Cryfder: <0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 52

Dyma adolygiad gan nifer o awduron gwadd o blith ein Lleisiau Lleol.

Mae sylfaenydd Clean Break, Rich, wedi disgrifio’r cwrw yma fel cam yn ei “ysgariad blêr oddi wrth alcohol”. Wedi gweithio am ugain mlynedd yn y diwydiant alcohol, cefnodd ar yfed alcohol yn 2021 a phenderfynu creu ei ddiodydd di-alcohol ei hun.

Mae diwyg y can yn syml a thwt, gan gyd-fynd â phwyslais y brand ar lendid. Mae gan y ddiod ei hun liw gwelw braf ac arogl mwyn. Mae ganddi flas hyfryd – adfywiol a heb fod yn llethol. Dyw hi ddim yn teimlo fel pe bai lleihau’r alcohol wedi gorfodi’r bragwyr i gyfaddawdu ar y blas, a byddwn ni’n fodlon iawn dewis y cwrw yma eto.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​