Days Pale Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Days Pale Ale

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob potelaid: 69

Sefydlodd Duncan a Mike Days Brewing yng Nghaeredin yn 2020, gan amcanu creu cwrw “heb yr sgil-effeithiau”. Yn wahanol i nifer o gyrfau prin-eu-halcohol, mae’n cael ei fragu ar gryfder o 0.0% yn hytrach na chael ei ddad-alcoholeiddio ar ôl ei fragu. Mae’n cael ei wneud â dŵr pur o Fryniau Lammermuir a barlys lleol. Mae’n dod mewn potel bert gyda llythrennau siriol a phatrwm twt o liwiau sy’n rhoi iddo olwg a gwedd diod o safon.

Nid cwrw gwelw arferol yw hwn – mae’n rhy dywyll a thrymlwythog o frag i haeddu’r fath enw, ac yn debyg i gyrfau coch fel Doom Bar Zero ac Old Speckled Hen Low Alcohol – ond dyw e ddim yn brin o hopys chwerw chwaith, ac mae’n ddigamsyniol o flasus.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​