Gloucester Brewery Cheeky Chopper

English | Cymraeg

Ein barn ar Gloucester Brewery Cheeky Chopper

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: dim gwybodaeth

Sefydlwyd Bragdy Caerloyw yn 2011 yn hen ddociau’r ddinas, ac maen nhw eisoes wedi creu un cwrw di-alcohol da. Wedi’i lansio yn 2024, Cheepy Chopper yw eu hail gwrw ar 0.5%, ac mae e lawn cystal.

Dyma gwrw gwelw cymylog gyda digon o drwch. Mae digon o hopys hefyd, ond fydd y chwerwder ddim yn crychu eich ceg. Mae’n gwrw sesiynol da. A gan nad yw’n gryfach na 0.5%, gall eich sesiwn barhau am faint fynnwch chi.

Mae’n dod mewn can trwsiadus gyda chartŵn annwyl o olygfa o ddinas Caerloyw gyda’i chlochdai adnabyddus, ac mae 10% o’r elw’n mynd at Ambiwlans Awyr y Gorllewin, sy’n gwasanaethu cleifion yn ardaloedd Bryste, Caerfaddon a Gwlad-yr-Haf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​