High Sobriety Raspberry

English | Cymraeg

Un o’r seidrau ffrwythus gorau flason ni erioed.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 32

Gwelsom ni Hogan’s Cider yn gyntaf oll yn 2019, pan lansion nhw seidr traddodiadol 1% o’r enw smala High Sobriety. Seidr da oedd hwnnw, ond roedd mymryn gormod o alcohol ynddo fe ar gyfer llawer un oedd yn ymdrechu i yfed llai neu i ymwrthod. Mae wedi cael ei ail-lansio gyda chryfder o 0.5%, sy’n braf iawn, ac fe lansiwyd hefyd y seidr mafon blasus yma.

Ambell waith, mae seidrau gyda ffrwythau eraill – yn ogystal ag afalau – dipyn bach yn rhy felys. Dwy hynny ddim yn wir am hwn. Mae ganddo liw coch dwfn, deniadol, ac arogl hyfryd afalau a mafon ffres, heb ddim byd artiffisial ar ei gyfyl. Diod fwy melys na High Society Original yw hon, ond mae cytbwysedd da rhwng melyster a surni. Mae tamaid o finegr afalau ynddo fe, sy’n rhoi brathiad bach iddo; ond mae’r sudd mafon yn sicrhau nad yw’r brath yn ormod.

Yn wir, dyma un o’r seidrau ffrwythus gorau flason ni erioed. Cewch chi brynu High Sobriety Raspberry ar-lein yn syth o’r berllan, naill mewn poteli traddodiadol hardd neu mewn caniau cyfleus.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​