Nunc Jun-Kombucha – Hops Monster

English | Cymraeg

Ein barn ar Nunc Jun-Kombucha – Hops Monster.

Sgôr:

5/5

Cryfder: <0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 15

Dyma adolygiad gan nifer o awduron gwadd o blith ein Lleisiau Lleol.

Mae diodydd Nunc yn cael eu creu yn sir Buckingham o gynhwysion naturiol i gyd. Roedd sefydlwyr y cwmni, Andrew a Diana, wedi’u siomi gan gymaint o gemegion ac ychwanegion gawson nhw yn eu hoff ddiodydd. Felly, aethon nhw ati i wneud rhywbeth gwell.

Math o jun-kombucha yw’r ddiod yma. Ystyr hynny yw ei bod wedi’i bragu â mêl yn lle siwgr, sy’n rhoi blas llyfnach iddi. Mae’r arogl yn ffres, ac mae’r ddiod fymryn fel te gwyrdd gwelw ar ôl ei thywallt. Er gwaetha’r enw Hop Monster, doedd neb o’n panel profi yn gweld rhyw lawer o flas cwrw arni hi. Yn lle hynny cawson nhw flasau afalau a lemonau, ynghyd â choriander, croen orenau a sinsir, a thipyn bach o finegr.

Ym marn un, roedd hi’n “hoenus, ffres ac ysgafn”. Roedd un arall yn ei gweld yn “gras a llawn sitrws”. Awgrymodd un ei gweini gyda sbrigyn o fintys. At gilydd, cafodd hi gymeradwyaeth frwd!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​