Nunc Jun-Kombucha: Juni-Purr

English | Cymraeg

Ein barn ar Nunc Jun-Kombucha: Juni-Purr.

Sgôr:

4/5

Cryfder: <0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 17

Dyma adolygiad gan nifer o awduron gwadd o blith ein Lleisiau Lleol.

Fel llawer o gwmnïau diodydd di-alcohol, cafodd Nunc ei sefydlu gan gwpl o bobl oedd yn awyddus am well diodydd na’r rhai oedd ar gael iddyn nhw. Dechreuodd Andrew a Diana arbrofi bragu; ac ar ôl miloedd o arbrofion, roedden nhw’n gwybod bod gyda nhw rywbeth gwerth ei yfed.

Mae jun-kombucha yn cael ei gwneud â mêl yn lle siwgr. Mae’r arogl yn ffres ac yn fwy apelgar o dipyn na sawl kombucha drïais i o’r blaen. Mae’r blas cyntaf mor adfywiol, ac mae mymryn o swigod sy’n cyd-fynd yn dda a llyfnder y mêl. Yn gyntaf oll, rydych chi’n cael blas y te gwyrdd, wedyn aeron meryw, had coriander, dail leim, a had ffenigl. Os ydych chi’n hoff o ddiodydd gyda blasau perlysiau, byddwch chi wrth eich bodd efo hon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​