Nunc Jun-Kombucha: Rose Blush

English | Cymraeg

Ein barn ar Nunc Jun-Kombucha: Rose Blush.

Sgôr:

4/5

Cryfder: <0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 16

Dyma adolygiad gwadd gan un o’n Lleisiau Lleol.

Mae diodydd Nunc wedi’u creu yn sir Buckingham o gynhwysion naturiol, ac maen nhw’n gymharol newydd yn y farchnad – sefydlwyd y cwmni yn 2020.

Mae gan y ddiod Rose Blush yma liw pinc hyfryd. Roedd rhaid i mi wneud yn siŵr nad oedd ynddi ddim lliwiau artiffisial, gan ei bod hi more llachar! Does dim un.

Mae’r cynhyrchwyr yn mynnu nad oes ganddi ddim o flas finegr cryf ambell kombucha, ac maen nhw yn llygad eu lle. Mae blas y finegr yno o hyd – ond mewn modd mwy soffistigedig na llawer o ddiodydd eu cystadleuwyr. Hibisgws a rhosod yw’r prif flasau, gan roi i’r ddiod deimlad blodeuog braf.

Yn gyntaf oll, tywalltais i’r ddiod i wydryn tal, cyn sylweddoli ei bod hi’n haeddu gwydryn gwin da, ac yn haeddu ei llymeitian yn araf fel gwin. Dyma ddiod hafaidd braf – i’w hyfed gyda rhew a mefusen, efallai.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​