Pearson's Hibiscus and Rose

English | Cymraeg

Ein barn ar Hibiscus and Rose

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 43
Sgôr: 4 o 5

Sylwon ni’n gyntaf ar Spirits of Virtue yn 2019 pan gyhoeddon ni adolygiad o Dochus, eu wisgi dirwestol. Maen nhw wedi ehangu eu casgliad gryn dipyn ers hynny ac mae bellach yn cynnwys y wirod ddi-alcohol yma gyda rhosod a hibisgws ar gyfer y rhai sydd wedi ffoli ar jin ffrwythus.

Yn anad dim, diod gytbwys yw hon: melystra wedi’i gydbwyso gan chwerwder; blodeuog ond heb fod yn llethol. Gyda thonic, mae’n fendigedig. Mae’n ddiod wych yr olwg hefyd, gyda lliw rhos-binc hyfryd. Mae’n dod mewn potel wych hefyd, gyda diwyg gwyn ac arian trawiadol a delwedd fach dwt o un o deithwyr Oes Fictoria, tebyg i Phileas Fogg neu Isambard Brunel.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​