Holly GoLightly Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Holly GoLightly.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml:
21

Mentr deuluol yw Celtic Marches, gan dyfu afalau ar ddau gant erw o gefn gwlad sir Henffordd ers saith cenhedlaeth. Maen nhw’n cynhyrchu nifer fawr o wahanol fathau o seidr, gan gynnwys detholiad da o rai ar gryfder o 0.5%.

Seidr traddodiadol yw hwn, yn ffres o’r fferm a heb fod yn rhy felys. Mae’n fywiog heb fod fel pop, ac mae blas afalau da arno. Dylai gwybodusion seidr fod yn fwy na bodlon arno. Mae’n bell ar y blaen i seidrau prin-eu-halcohol yr archfarchnadoedd, ac mae’n cymharu’n eithaf da â Sheppy’s a Stowford Press

Jôc fach glyfar yw’r enw Holly GoLightly ac roedd y poteli cynnar yn cynnwys llun o Audrey Hepburn yn y ffilm boblogaidd o 1961, Breakfast at Tiffany’s. Wrth i fwy a mwy o fragwyr roi’r gorau i roi merched prydferth ar eu poteli, mae’r diwyg newydd gyda phatrwm o afalau glas i’w weld yn fwy priodol erbyn hyn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​