Cascadian Tides

English | Cymraeg

Ein barn ar Cascadian Tides, cwrw du di-alcohol gan Brulo.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob can: 56

Rydym ni eisoes wedi cynnig ein barn ar gwpl o ddiodydd di-alcohol Brulo, sy’n fragdy di-alcohol cymharol newydd yng Nghaeredin. Mwynheuon ni eu Lust for Life a’u 7 Hop 7 Grain ill dau fel ei gilydd.

Cascadian Tides yw eu cwrw du di-alcohol newydd. Ond ydy e’n gwrw da? Yn y bôn, ydy, un da iawn. Yn ôl y sôn, enillodd y wobr am y Cwrw Du Di-alcohol Gorau yn Sialens Gwrw Ryngwladol 2023, a gallwn ni weld pam. Roedd ein panel profi yn mwynhau’r teimlad swmpus, felfedaidd, gydag isnodau siocled a choffi sy’n gwneud iawn a rhagor am absenoldeb alcohol.

At hynny, mae’n addas i feganiaid. Felly, os byw heb gynnyrch anifeiliaid yw eu dewis, bydd y ddiod yma’n gwneud y tro i chi i’r dim.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​