Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Mae Lucky Saint wrthi’n bragu ers 2018, ac mae eu casgliad yn tyfu o hyd. Mae cwrw melyn, cwrw gwelw, Weissbier a chwrw lemwn, ac erbyn hyn mae’r cwrw melyn yma gyda leim a halen y môr.
Cwrw bywiog yw e – mae angen ei dywallt yn araf! Mae ganddo arogl cwrw melyn da, a’r leim yn ymddangos yn dawel bach yn y cefndir. O ran y blas, mae’r leim a’r halen yn llawer mwy amlwg, ond heb foddi blasau’r grawn a’r hopys. Fel y cyrfau ffrwythus gorau, mae hwn yn blasu fel cwrw gyda ffrwyth yn hytrach na diod ffrwythau.
Mae i’w weld yn ddiod fydd yn ennyn barn gref y naill ffordd neu’r llall – byddwch chi naill ai wrth eich bodd neu’n e roi i lawr yn gyflym iawn. Mae’r blasau’n gryf ac awchus. Mae’n bell o fod yn ddiflas ond fydd e ddim at ddant pawb.