Canolfan gymorth Try Dry

Os ydych chi’n cael trafferth gyda’r app Try Dry, sbïwch isod i weld rhai atebion.

This page is available in English | German | French | Norwegian

Newid iaith yr app Try Dry i’r Gymraeg

Fel arfer, mae Try Dry yn defnyddio’r iaith mae’ch dyfais yn ei defnyddio. Ond mae modd i chi newid yr iaith hefyd.

I newid iaith yr app Try Dry i’r Gymraeg, dilynwch y camau canlynol:

  • Ewch i Settings ar y dde ar waelod y sgrîn hafan
  • Dewiswch Edit account details a sgroliwch i lawr at Language
  • Gwasgwch y saeth sy’n pwyntio i lawr a dewiswch Welsh o’r rhestr ieithoedd
  • Gwasgwch OK ac wedyn Save

Mynd i mewn i’r app

Hen system weithredu

Os oes hen system weithredu ar eich ffôn, efallai na fydd yr app yn gweithio fel y dylai. I gael gwybod os oes gennych chi’r system weithredu ddiweddaraf ar eich dyfais:

(Android) Select Settings > About phone > Android version

(IOS) Select Settings > General > About > Version.

Cysylltiad araf, neu ddiffyg cysylltiad, â’r we

Efallai mai eich cysylltiad chi â’r we sy’n araf neu’n absennol. Dim ond ar-lein mae’r app yn gweithio, felly mae angen i wneud yn siŵr eich bod chi wedi cysylltu’n iawn â’r we.

Hen fersiwn o’r app

Bydd problemau’n codi weithiau os oes gennych chi hen fersiwn o’r app. I gael gwybod os yw’r fersiwn diweddaraf gennych chi, agorwch yr app a chliciwch ar y tab ‘Gosodiadau’. Sgroliwch i waelod i y tudalen, lle gwelwch rif fersiwn.

Os nad dyma’r fersiwn sydd gennych chi, dylech chi fachu’r un diweddaraf o’r App Store (iPhone) neu Google Play (Android).

Os ydych chi’n methu agor yr app yn ond yn credu mai fersiwn heb sydd gennych chi, dylech chi ddadosod yr app a’i osod o’r newydd o’r App Store neu Google Play. Fyddwch chi ddim yn colli eich data wrth wneud hyn.

Gormod o alw ar y system

Ar rai adegau, yn enwedig ym mis Ionawr, bydd llawer o bobl ar yr app ar yr un pryd. Gwawn ni bopeth gallwn ni i sicrhau fod digon o le i bawb ond weithiau bydd problemau’n codi. Gwawn ni ein gorau i’w trwsio’n syth. Byddwch yn amyneddgar, yn enwedig ar 1 Ionawr. Gadewch y peth a dewch yn ôl ymhen awr.

“Ydych chi wedi ei droi fe bant ac wedyn ymlaen eto?”

Tipyn o jôc yw’r hen gyngor yma, ond weithiau mae’n gweithio i’r dim. O bryd i’w gilydd, mae angen ailosod ffôn er mwyn i bopeth weithio’n iawn. Os nad yw troi eich ffôn bant a’i droi ymlaen eto’n tycio dim, efallai bydd yn werth i chi ddadosod yr app a’i ailosod. Fyddwch chi ddim yn colli eich data wrth wneud hyn.

Os nad yw’r un o’r atebion yma’n gweithio i chi, llenwch y ffurflen yma, a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Gallwch chi ei ailosod o fewn yr app Try Dry. Agorwch yr app > cliciwch ar ‘Mewngofnodi’ > cliciwch ar ‘Wedi anghofio cuddair?’ Byddwch chi wedyn yn derbyn e-bost gan Ionawr Sych ymhen munud neu ddwy, gyda dolen i wefan lle gallwch chi greu cuddair newydd. A dyna bopeth wedi’i sortio.

Mae sawl rheswm posibl na chawsoch chi eich e-bost ailosod cuddair:

1. Edrychwch yn eich ffolder sbam neu sbwriel.

2. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r fersiwn diweddaraf o'r app Try Dry app.

3. Mae gan lawer ohonon ni sawl cyfeiriad e-bost, felly mae’n bosibl eich bod chi wedi cofrestru ar yr app gyda chyfeiriad e-bost gwahanol i’r un rydych chi wedi gofyn i ni ddanfon yr e-bost ailosodo cuddair ato. Gwiriwch i chi ofyn am ddanfon yr e-bost ailosod cuddair i’r cyfeiriad cywir.ac nad oes gwallau teipio bach, fel, @gmail.con yn lle @gmail.com.

4. Os na chewch chi’r e-bost o hyd, a dyw e ddim ymhlith eich sbwriel, cysylltwch â’ch Darparwr Gwasanaeth Gwe a gofyn iddyn nhw ganiatáu e-byst o’r anfonwr canlynol:

· IP: 77.32.162.187

· Domain: sibemails.alcoholchange.org.uk

Os cawsoch chi eich e-bost ailosod cuddair ond dydy e ddim yn gweithio, mae ambell reswm posibl:

  • Os yw’r e-bost gennych chi ers mwy na 9 awr, neu os gofynnoch chi am un arall ar ei ôl, fydd e ddim yn gweithio. Mae temtasiwn i ofyn am sawl e-bost ailosod cuddair os na ddaw’r un cyntaf drwodd yn syth, ond mae’n cymhlethu pethau. Gofyn unwaith ac aros am yr e-bost sydd orau.
  • Ambell waith, mae rhai dyfeisiau’n cael trafferth agos yr e-bost ailosod cuddair mewn ambell borwr fel Google Chrome neu Safari: pan gliciwch ar y ddolen, does dim byd yn digwydd, neu dydy’r porwr ddim yn dangos neges. Os bydd hyn yn digwydd i chi, trïwch gopïo’r URL a’i roi mewn porwr arall.

Os nad ydy’r un o’r atebion hyn yn gweithio i chi, llenwch y ffurflen yma a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Mae pob defnyddiwr yn cael ei allgofnodi ar ôl rhywfaint o amser heb ddefnyddio’r app. Mae hyn yn cadw eich data’n ddiogel a phreifat. Mewngofnodi eto yw’r cyfan mae eisiau i chi ei wneud.

Yn anffodus, mae nifer fach o bobl yn cael problemau oherwydd eu bod mewn rhanbarth amser gwahanol. Mae’n ddrwg gennym ni am hyn. Ar hyn o bryd, allgofnodi a mewngofnodi eto yw’r ateb, ond rydyn ni’n gweithio i drwsio’r broblem.

Calendr

Problem gymharol brin yw hon, sy’n digwydd pan fydd yr app yn cymryd tipyn o amser i siarad â’r gronfa ddata sy’n cadw eich data’n ddiogel, yn enwedig os bydd llawer o bobl ar yr app neu os oes gwaith yn digwydd ar y server. Fel arfer, gallwch chi drwsio’r broblem trwy glicio ar yr eicon adnewyddu data (y ‘cylch’ du o ddau saeth) sydd yng nghornel dde uchaf tudalen y calendr.

Gwyddon ni fod rhai pobl yn cael trafferth gweld y rhes isaf o ddyddiau’r mis ar eu sgrîn calendr. Problem gosodiadau arddangos yw hwn, ac mae’n benodol i rai mathau o ffôn.

Gwyddon ni fod hyn yn creu rhwystredigaeth ac rydyn ni wrthi’n ei gywiro. Gallwch chi fod yn sicr bydd eich data yn cael eu cadw hyd yn oes os nad ydyn nhw’n ymddangos yn iawn. Gobeithio byddwch chi’n mwynhau gweddill yr app yn y cyfamser.

Bathodynnau a gorchwylion

Mae bathodynnau efydd, arian ac aur yn yr app. Ar ôl i chi ennill pob bathodyn efydd byddwch chi’n dechrau ennill bathodynnau arian. Pan fyddwch chi wedi ennill pob bathodyn arian, byddwch chi’n dechrau eraill bathodynnau aur. Bydd y bathodynnau rydych chi heb eu hennill eto yn ymddangos fel clo clec llwyd.

Mae gan bob bathodyn gerrig milltir gwahanol ar gyfer symud ymlaen o fathodynnau efydd. Am ysbeidiau sych, byddwch chi’n symud i arian ar ôl 31 diwrnod ac aur ar ôl 6 mis. Ar gyfer eich cyfanswm o ddyddiau sych byddwch chi symud i arian ar ôl 20 diwrnod ac aur ar ôl 200 diwrnod.

I weld y cerrig milltir ar gyfer pob bathodyn, ewch i’r adran “Cynnydd”, dewiswch “bathodynnau” ac wedyn “gweld pob un”.

I rai pobl, mae’r bathodyn arian yn anodd ei weld. Trïwch wneud sgrîn eich ffôn yn fwy llachar.

Gallwch greu nodau neilltuol sy’n unigryw i chi.

Er mwyn gosod nod neilltuol:

  1. Dewiswch y tab ‘Cynnydd’ ar waelod y sgrîn. Cewch chi hwn i’r dde o’r botwm plws mewn cylch melyn.
  2. Dewis nodau.
  3. Dewiswch y botwm melyn ‘Gosod Nod’. Bydd hwn yn gofyn i chi newid eich nod os oes gennych chi un eisoes: dim ond un nod tro ar y tro gewch chi.
  4. Dewiswch ‘NODAU NEILLTUOL’. Mae ar y tab ar ben y sgrîn, wrth ‘NOD BAROD’.
  5. Dewiswch un o’r opsiynau.

Mae 3 math o nod neilltuol.

  1. Aros yn sych am rywfaint o amser
  2. Aros yn sych ar rai dyddiau’r wythnos
  3. Pennu ffiniau fy unedau

Efallai i chi sylwi bod rhai nodau wedi’u lliwio’n llwyd. Wrth i chi drio eu gosod fel nod newydd, cewch chi neges yn dweud eich bod chi eisoes wedi’u cwblhau – er nad ydych chi erioed wedi eu gosod fel nod, o bosib.

Ar hyn o bryd, mae gan Try Dry ddwy reol:

  1. Yn gyntaf, pan gewch chi fathodyn am rywbeth, mae’r app yn nodi eich bod chi cyrraedd y nod barod sy’n cyfateb.
  2. Ac yn ail, ar ôl i chi gyrraedd nod barod, does dim modd trio ei chyrraedd yr eildro.

Er enghraifft, os cawsoch chi gyfnod o dridiau heb alcohol, byddwch chi’n ennill bathodyn am gyfnod sych o dridiau, a byddwch chi hefyd wedi cyrraedd y nod gyfatebol, os gosodoch chi’r nod yna neu beidio. Bydd y nod barod yna wedi’i lliwio’n llwyd ac felly does modd ei gosod fel nod newydd.

Os ydych chi eisiau gosod un o’r nodau sydd wedi’i lliwio’n llwyd fel nod i chi, gallwch wneud hynny trwy ei gosod fel Nod Neilltuol.

Newid fy nata

Mae hyn yn amhosibl ar hyn o bryd. Os ydych chi am ddechrau o’r newydd, gallwch chi gofrestru ar yr app Try Dry â chyfeiriad e-bost newydd. Os ydych chi am glirio eich data am ychydig ddyddiau, edrychwch isod.

Cewch. Os ydych chi wedi rhoi diod i mewn ond wedi cael diwrnod sych, neu wedi bwriadu yfed ond wedi cael diwrnod sych, gallwch chi fynd yn ôl a’i newid.

Os rhoddoch chi ddata i mewn yn anghywir, gallwch chi ei newid ar unrhyw ddiwrnod ar y calendr.

Os dwedoch chi i gael diwrnod sych, ond cawsoch chi ddiod:

  1. Tapiwch ar y diwrnod perthnasol yn eich calendr
  2. Bydd sgrîn yn codi gyda chonffeti. Tapiwch ar ‘Yfais i rywbeth’ ar waelod y sgrîn
  3. Rhowch eich diod(ydd) i mewn

Os rhoddoch chi ddiod i mewn, ond cawsoch chi ddiwrnod sych:

  1. Tapiwch ar y diwrnod perthnasol yn eich calendr
  2. Tapiwch ar y diod(ydd) roddoch chi i mewn
  3. Ar ochr chwith gwaelod y sgrîn ‘Newid diod’ tapiwch ar ‘Dileu diod’
  4. Bydd sgrîn fach yn codi. Tapiwch ar ‘Dileu’
  5. Os ydych chi wedi dileu eich holl ddiodydd, bydd sgrîn yn ymddangos yn dweud, ‘Dwedoch chi i chi gael diod ond rydych chi heb restru un eto.’ Tapiwch ar ‘Yfais i ddim byd!’.

Fy arbedion

Ar ddiwedd pob wythnos, bydd eich arbedion wythnosol yn cael eu hail-osod i sero, er mwyn dechrau cyfrif wythnosol newydd ar gyfer yr wythnos sydd ar y gweill.

Bydd y ffigur yn aros ar sero nes i chi roi data newydd i mewn. Mae’r arbedion yn cael eu cyfrif ar sail y data yfed roddoch chi i mewn i’r app trwy wneud y cwis y dechrau.

Mae’r un peth yn wir am ddechrau pob mis newydd a phob blwyddyn newydd.

Mae eich arbedion ariannol yn cael eu cyfrif ar sail dwy ffigur ac mae modd i chi newid y ddwy unrhyw bryd:

  • Faint roeddech chi’n ei yfed ar y dechrau
  • Costau’r diodydd gawsoch chi

I wneud ffigur eich arbedion yn fwy cywir, gallwch chi newid y ddwy ffigur yma.

Wrth i chi nodi faint rydych chi’n ei yfed ar y dechrau, bydd yr app yn cyfrif faint rydych chi’n ei wario ar alcohol bob wythnos ar sail prisiau arferol y wlad yma. Wrth gwrs, mae prisiau’n amrywio’n fawr o le i le a rhwng gwahanol frandiau diodydd. Felly, cewch chi newid costau eich diodydd arferol trwy dapio ar yr eicon pensil yn y cylch du wrth ‘Cost y ddiod’ a rhoi eich swm eich hunan i mewn.

  • Wrth i ychwanegu diod ar y sgrîn ‘Ychwanegu diod’, bydd Try Dry yn amcangyfrif pris ar sail ble cawsoch chi hi (cliciwch ar ‘O’r siop’ neu ‘Bar/Tafarn/Bwyty’ ar ben y sgrîn).
  • Ond gallwch roi pris manwl gywir i mewn yn is ar yr un sgrîn trwy dapio ar yr eicon pensil yn y cylch du wrth ‘Cost y ddiod’.
  • Ar ôl i chi newid y pris, gallwch chi hefyd nodi’r ddiod yma fel Ffefryn. Trwy gadw’r ddiod fel Ffefryn bydd hi’n rhwydd i chi ei dewis o’r rhestr heb orfod cywiro’r pris eto.

E-byst a hysbysiadau

Mae’r app Try Dry yn danfon hysbysiadau calonogol bob dydd i’r dyfais gyda dolen i’ch calendr, yn ogystal â’ch crynodeb wythnosol ac unrhyw fathodynnau newydd enilloch chi.

Mae’n bosibl i chi droi’r rhain bant. O dan y tab ‘Gosodiadau’ mae swits fach ‘Hysbysiadau’. Os ydych chi’n derbyn hysbysiadau, bydd y swits yn felyn gyda smotyn gwyn ar y dde. Cewch chi symud y swits bant neu ymlaen.

Gallwch chi hefyd newid pryd mae’r hysbysiadau’n eich cyrraedd yn ystod y dydd. Mae llawer o bobl yn hoffi eu derbyn gyda’r hwyr, rhai eraill yn dymuno eu cael gyda’r bore neu ganol dydd. Mater i chi yw e. Ewch i ‘Gosodiadau’ ac wedyn ‘Gosod amser yr hysbysiadau’.

Os nad yw’r hysbysiadau’n dod drwodd, mae’n bosibl bod gosodiadau eich dyfais yn eu rhwystro. Ewch i ‘Settings’ ar eich dyfais ac edrych ar ‘Notifications’ i weld os ydyn nhw wedi’u troi ymlaen ar gyfer yr app Try Dry.

Er mwyn derbyn hysbysiadau ond peidio â’u dangos ar eich sgrîn clo:

  1. Agorwch osodiadau eich dyfais
  2. Tapiwch ar ‘Settings’ neu ‘Apps and notifications’ (mae’r geiriau’n amrywio rhwng dyfeisiau)
  3. Chwiliwch am Try Dry yn y rhestr apps
  4. Dilëwch ‘Lock screen’ o’r hysbysiadau

Os nad ydych chi’n derbyn e-byst ond eisiau eu derbyn, ewch i’r tab ‘Gosodiadau’, tapiwch ‘Dewisiadau e-bost’, yna tapiwch ‘Ymunwch’.

Os ydych chi’n derbyn e-byst ond eisiau peidio, cliciwch ar y ddolen ‘Unsubscribe’ ar waelod unrhyw e-bost gewch chi oddi wrthyn ni.

Mae smotyn pinc yn dangos bod hysbysiadau’n aros i ti. Dylai fe ddiflannu pan dapiwch chi ar un o’r adrannau o dan y tab ‘Gosodiadau’. Ond gwyddon ni fod y smotyn yn aros o hyd i rai pobl ar ôl gwneud hyn.

Er ei fod fymryn yn annifyr, dyw e ddim yn achosi problemau mawr, ac mae’n fwriad gennym ni gael gwared arno’n llwyr yn nes ymlaen eleni.

Yn y cyfamser, gobeithio na fydd hyn yn amharu gormod ar yr app i chi.

Cysylltiadau

Ymddiheuriadau! Mae sawl rheswm gallai hyd ddigwydd.

Cysylltiad araf, neu ddiffyg cysylltiad, â’r we

Efallai mai eich cysylltiad chi â’r we sy’n araf neu’n absennol. Dim ond ar-lein mae’r app yn gweithio, felly mae angen i wneud yn siŵr eich bod chi wedi cysylltu’n iawn â’r we.

Gormod o alw ar y system

Ar rai adegau, yn enwedig ym mis Ionawr, bydd llawer o bobl ar yr app ar yr un pryd. Gwawn ni bopeth gallwn ni i sicrhau fod digon o le i bawb ond weithiau bydd problemau’n codi. Gwawn ni ein gorau i’w trwsio’n syth. Byddwch yn amyneddgar, yn enwedig ar 1 Ionawr. Gadewch y peth a dewch yn ôl ymhen awr.

“Ydych chi wedi ei droi fe bant ac wedyn ymlaen eto?”

Tipyn o jôc yw’r hen gyngor yma, ond weithiau mae’n gweithio i’r dim. O bryd i’w gilydd, mae angen ailosod ffôn er mwyn i bopeth weithio’n iawn. Os nad yw troi eich ffôn bant a’i droi ymlaen eto’n tycio dim, efallai bydd yn werth i chi ddadosod yr app a’i ailosod. Fyddwch chi ddim yn colli eich data wrth wneud hyn.

Hen system weithredu

Os oes hen system weithredu ar eich ffôn, efallai na fydd yr app yn gweithio fel y dylai. I gael gwybod os oes gennych chi’r system weithredu ddiweddaraf ar eich dyfais:

(Android) Select Settings > About phone > Android version

(IOS) Select Settings > General > About > Version.

Hen fersiwn o’r app

Bydd problemau’n codi weithiau os oes gennych chi hen fersiwn o’r app. I gael gwybod os yw’r fersiwn diweddaraf gennych chi, agorwch yr app a chliciwch ar y tab ‘Gosodiadau’. Sgroliwch i waelod i y tudalen, lle gwelwch rif fersiwn.

Os nad dyma’r fersiwn sydd gennych chi, dylech chi fachu’r un diweddaraf o’r App Store (iPhone) neu Google Play (Android).

Os ydych chi’n methu agor yr app yn ond yn credu mai fersiwn heb sydd gennych chi, dylech chi ddadosod yr app a’i osod o’r newydd o’r App Store neu Google Play. Fyddwch chi ddim yn colli eich data wrth wneud hyn.

Mae hyn yn digwydd os ydych chi heb gysylltu â’r we ond yn trio rhoi data yn yr app. Mae’r app yn methu derbyn data os nad ydy e wedi’i gysylltu â’r we. Mae angen i chi ddefnyddio wi-fi neu ddata symudol eich dyfais.

Atebion eraill

Os nad yw’r broblem sydd gennych chi ddim ar y rhestr, gwiriwch:

1. Mai’r fersiwn diweddaraf o’r app sydd gennych chi.

Bydd problemau’n codi weithiau os oes gennych chi hen fersiwn o’r app. I gael gwybod os yw’r fersiwn diweddaraf gennych chi, agorwch yr app a chliciwch ar y tab ‘Gosodiadau’. Sgroliwch i waelod i y tudalen, lle gwelwch rif fersiwn.

Os nad dyma’r fersiwn sydd gennych chi, dylech chi fachu’r un diweddaraf o’r App Store (iPhone) neu Google Play (Android).

Os ydych chi’n methu agor yr app yn ond yn credu mai fersiwn heb sydd gennych chi, dylech chi ddadosod yr app a’i osod o’r newydd o’r App Store neu Google Play. Fyddwch chi ddim yn colli eich data wrth wneud hyn.

2. Bod eich system weithredu wedi’i diweddaru

Os yw eich ffôn yn defnyddio heb system weithredu, efallai na fydd yr app yn gweithio. I weld os yw’r system weithredu ddiweddaraf gennych chi:

(Android) Select Settings > About phone > Android version

(IOS) Select Settings > General > About > Version.

3. Bod gennych gysylltiad â’r we

Os nad yr un o’r pethau uchod yw’r broblem, dyma rai pethau eraill gallwch chi eu trio:

  1. Dewch yn ôl ymhen awr neu ddwy – mae’n bosibl bod galw mawr ar yr app
  2. Ailddechrau eich dyfais
  3. Dadosod yr app a’i ailosod. Fyddwch chi ddim yn colli eich data wrth wneud hyn.

Os ydych chi wedi trio pob un o’r pethau uchod heb lwyddiant, llenwch y ffurflen yma a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted â phosibl i drwsio’r broblem.