Tanqueray Flor de Sevilla 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Tanqueray Flor de Sevilla 0.0

Score:

3/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 3

Un o ddistyllfeydd hynaf y byd yw Tanqueray, ac mae eu diodydd yn hoff gan lawer un sy’n licio meddwl eu bod nhw’n gwybod beth yw beth o ran jin. Lansiwyd gwirod ddi-alcohol gyntaf Tanqueray yn 2021, a chyrhaeddodd y Flor de Sevilla yma yn 2023.

Diod wych yr olwg yw hi. Mae diwyg y botel yn brydferth tu hwnt ac mae gan y ddiod tu fewn liw melyn-binc hyfryd. Mae’r blas orenau yn lled felys ond gyda pherlysiau chwerw o dano. Mae’n eithaf annhebyg i jin draddodiadol – ond dyw hynny ddim yn beth anarferol y dyddiau hyn. At ei gilydd, mae’n ysgafn ac adfywiol. I’r dim ar gyfer diwrnod heulog.

Drydrinker and Wise Bartender are online suppliers of low-alcohol and no-alcohol drinks. When you buy drinks from them using these links, Alcohol Change UK gets a proportion of the sales, helping us work to end the harm caused by alcohol.